Rhif y ddeiseb: P-06-1351

Teitl y ddeiseb: Dylid sicrhau bod proses sgrinio'r galon ar gael i bob person ifanc 11-35 oed sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon

Testun y ddeiseb: O blith y 269 o bobl ifanc wnaeth farw’n sydyn yn y DU y llynedd, roedd 49 ohonynt yn athletwyr cystadleuol â chyflyrau heb eu diagnosio ar y galon.
Mae sgrinio'r galon wedi bod yn broses orfodol i bawb yn eu harddegau ac oedolion sy'n cystadlu mewn chwaraeon athletaidd yn yr Eidal ers 1982, gyda gwledydd eraill yn Ewrop yn cynnig prosesau sgrinio tebyg. Gwaetha’r modd, mae Cymru a’r DU ar ei hôl hi. Byddai’n dda gweld Cymru’n chwarae rhan arweiniol yn y DU, yn hyn o beth.

Ar sail ein sesiynau presennol sgrinio’r galon drwy broses electro-gardiogram, fe ganfyddom fod 1 o bob 4 sgriniad wedi datgelu'r angen am ymchwiliad pellach gydag eco-gardiogram.

 

 

 

 


1.        Cefndir

Sgrinio’r galon

Profion a gynhelir er mwyn dod o hyd i glefyd cyn i'w symptomau ddechrau yw profion sgrinio. Nod sgrinio yw canfod clefyd mor gynnar â phosibl pan fydd yn haws ei drin. Wrth sgrinio’r galon, defnyddir prawf diagnostig i ganfod ac asesu clefyd y galon. Ym mhob prawf sgrinio, mae potensial o beri niwed gan fod risg y bydd canlyniad ffug.

Nid yw GIG Cymru yn sgrinio calonnau fel mater o drefn er mwyn canfod cyflwr isorweddol ar y galon. Mae rhai elusennau fel Calon Hearts yn cynnig priofion sgrinio’r galon i bobl 16 oed a hŷn.

Er mwyn sgrinio i gael diagnosis o annormaleddau’r galon, defnyddir prawf ECG (electrocardiogram), sy'n cofnodi gweithgarwch trydanol y galon. Os oes angen delwedd fanylach, bydd angen gwneud sgan uwchsain o'r galon, sef ecocardiogram. Defnyddir y sgan i gael mesuriadau sy’n ganllaw ar gyfer pa mor drwchus yw cyhyr y galon a maint siambrau'r galon.

Polisi sgrinio calonnau yn y DU

Mae Pwyllgor Sganio Cenedlaethol y DU (UK NSC) yn cynghori Gweinidogion ym mhedair gwlad y DU ar bob agwedd ar sgrinio’r boblogaeth. Mae Pwyllgor Sganio Cenedlaethol y DU wedi ystyried sgrinio’r boblogaeth gyfan i atal marwolaeth gardiaidd sydyn ymhlith pobl ifanc 12 i 39 oed ac nid yw'n argymell gwneud hynny.

Marwolaeth Gardiaidd Sydyn yw marwolaeth sydyn ac annisgwyl sy'n cael ei achosi gan broblem gyda’r galon. Ymhlith pobl o dan 39 oed, yr achos yn aml yw bod cyhyr y galon wedi tewhau neu broblem drydanol gyda'r galon. Ymhlith pobl hŷn, mae’n fwy tebygol mai’r achos yw bod y pibellau gwaed sy’n cyflenwi’r galon wedi culhau.

Daeth Pwyllgor Sganio Cenedlaethol y DU i'r casgliad y byddai sgrinio’r boblogaeth gyfan ar gyfer Marwolaeth Gardiaidd Sydyn yn gwneud fwy o niwed na lles o dan yr amgylchiadau presennol. Mae ansicrwydd ynghylch y manteision cyffredinol pe bai’r bobl sy’n arddangos ffactorau risg yn cael eu nodi. Nid yw’r profion cyfredol yn ddigon dibynadwy (byddent yn methu llawer o bobl ac yn rhoi sicrwydd iddynt ar gam, tra bod llawer o bobl eraill yn cael canlyniadau positif ar gam). Ar hyn o bryd, nid oes triniaeth y cytunwyd arni ar gyfer rhywun y nodir ei fod yn wynebu risg.

Mae Pwyllgor Sganio Cenedlaethol y DU wedi cyhoeddi crynodeb o'r dystiolaeth sy’n sail i’w hargymhelliad presennol.

Cwblhawyd yr adolygiad diweddaraf gan Bwyllgor Sganio Cenedlaethol y DU ym mis Rhagfyr 2019 a disgwylir i'r adolygiad nesaf gael ei gwblhau yn 2023/24.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn ei llythyr at y Pwyllgor Deisebau dyddiedig 7 Awst 2023, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi, o ystyried nad yw Pwyllgor Sganio Cenedlaethol y DU yn argymell sgrinio’r boblogaeth gyfan ar gyfer marwolaeth gardiaidd sydyn ymhlith pobl ifanc 12 i 39 oed oherwydd anghysondeb y profion cyfredol, na all Llywodraeth Cymru gyflwyno rhaglen sgrinio ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Mae Pwyllgor Sganio Cenedlaethol y DU yn adolygu ei holl safbwyntiau polisi yn rheolaidd ac mae'r Gweinidog yn nodi y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ei safbwynt hithau pe bai hynny’n newid.

Mae’r Gweinidog yn datgan mai dim ond pan fo tystiolaeth gadarn o safon uchel y byddai profion sgrinio yn sicrhau mwy o ddaioni na drwg y dylid cynnig rhaglenni i sgrinio’r boblogaeth. Dyma a ddywed y Gweinidog yn y llythyr:

Yn gyffredinol, gall rhaglenni sgrinio poblogaeth achub bywydau drwy adnabod risg gynnar, ond gallant hefyd wneud niwed drwy nodi ffactorau risg na fyddai byth yn datblygu fel arall yn gyflwr difrifol neu’n gymhlethdod. Gall rhaglenni sgrinio gael canlyniadau negyddol anghywir, felly nid ydynt yn gwarantu amddiffyniad. At hynny, nid yw cael canlyniad risg-isel yn atal person rhag datblygu’r cyflwr yn ddiweddarach.

Ar gyfer teuluoedd unigolion a ddioddefodd marwolaeth gardiaidd sydyn, mae'r Gweinidog yn cynghori y dylent gael cynnig asesiadau clinigol unigol er mwyn asesu eu risg. At hynny, dylai pobl ifanc sydd â symptomau neu bryderon, yn enwedig os ydynt yn gorfforol egnïol iawn, siarad â'u meddyg teulu a fydd yn gallu eu cynghori fel y bo'n briodol.

3.     Camau blaenorol gan y Pwyllgor Deisebau

Trafododd y Pwyllgor ddeiseb P-06-1197 Gwasanaeth sgrinio'r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon ym mis Tachwedd 2021 ac ystyriwyd bod y ddeiseb wedi'i chwblhau yn ei gyfarfod ar 24 Ionawr 2022.

Cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer mwy y gallai ei wneud i fwrw ymlaen â’r ddeiseb a chyfeiriodd at y canllawiau a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Sganio Cenedlaethol y DU sy’n argymell na ddylid cyflwyno’r rhaglenni sgrinio yr oedd y ddeiseb yn gofyn amdanynt.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.